Anifeiliaid anarferol wedi cyrraedd y parc!
HEDDIW ym mharc bywyd gwyllt ‘Manor House’ mae yna drigolion newydd. Cafodd plant ysgol ‘Arberth’ a ‘Dinbych-y-Pysgod’ gip olwg arbennig ar rai o ffrindiau newydd y parc.
Mae yna chwech dafad Cameroon yn dod i arfer a’u cartref newydd ar ol cyrraedd yma bythefnos yn ol. Er bod y brîd o ddefaid yma yn dod o Affrica yn wreiddiol ma’r chwech yma wedi byw ym Mhrydain ar hyd eu oes. Hyd yma yr unig bobl oedd â chaniatad i weld y defaid oedd gweithwyr y parc, does dim hawl gan y cyhoedd i’w gweld eto OND mae gennym ni lluniau egsliwsif yn arbennig i chi!
Yma yng Nghymru rydym wedi hen arfer gweld defaid, ond fyddech chi byth yn gweld defaid mor anarferol a rhein ar ein mynyddoedd ni. Fel y dywedodd un o’r plant “Dydyn nhw ddim yn edrych fel defaid Cymru o gwbl!” Mae’u cot yn llyfn a lliw coch tywyll, a’u gwynebau mwy fel geifr na defaid! Cyn hir fe fydd y cyhoedd hefyd yn cael gweld yr anifeiliaid diddorol yma, am eu bod nhw’n symud i ‘r adran Affricanaidd - ardal newydd sbon o Barc Bywyd Gwyllt Manor House!







